3 Hydref 2017
Annwyl Syr / Madam
Ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio - Ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. Mae rhagor o fanylion am yr ymchwiliad ar wefan y Cynulliad:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=20013
Gellir gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn Atodiad 1.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc hwn.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Fel arall, ysgrifennwch at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 31 Ionawr 2018. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn Mae canllawiau ar gael i'r rhai sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau.
Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth i'w weld yma. Cofiwch ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, gellir gwneud cais am gopi caled o'r polisi hwn drwy gysylltu â'r Clerc, Bethan Davies (0300 200 6372 neu seneddcyllid@cynulliad.cymru).
Yn gywir,
Simon Thomas AC
Cadeirydd
Atodiad 1
Cylch gorchwyl
Diben yr ymchwiliad yw asesu effaith ariannol y gost o ofalu am boblogaeth sy’n heneiddio, a hynny yng nghyd-destun y prif heriau economaidd a strategol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu polisi:
§ Archwilio patrymau yn y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol i bobl oed pensiwn a'r costau cysylltiedig ar gyfer darparu gofal preswyl a dibreswyl, gan ystyried rôl gofalwyr anffurfiol sy'n darparu gwasanaethau di-dâl i'r bobl hynny y mae angen gofal arnynt;
§ Archwilio'r pwysau ariannol ar y system gofal cymdeithasol, fel cynnydd mewn cyflogau, cofrestru ar gyfer pensiynau awtomatig ac anawsterau recriwtio a chadw staff, gan gynnwys yr effeithiau ariannol cysylltiedig yn sgil y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd;
§ Ystyried effaith ariannol polisïau Llywodraeth Cymru – gan gynnwys deddfwriaeth a diwygiadau diweddar mewn cysylltiad â chyllid gwasanaethau cymdeithasol – ar awdurdodau lleol, darparwyr gofal a defnyddwyr gwasanaeth;
§ Ystyried anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol a chostau cysylltiedig, gan gynnwys cynnydd a ragwelir yng nghyfran poblogaeth Cymru sydd o oed pensiwn;
§ Asesu'r dulliau ariannol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r trefniadau ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried modelau eraill, gan gynnwys enghreifftiau rhyngwladol, i ariannu gofal cymdeithasol i sicrhau gwasanaeth teg a chynaliadwy o safon mewn cyfnod o alw cynyddol ar y systemau gofal iechyd a gofal cymdeithasol; ac
§ Ystyried canfyddiadau a chasgliadau'r Adolygiad Seneddol.